Title: Yr Hwiangerddi
Author: Sir Owen Morgan Edwards
Release date: May 1, 2005 [eBook #8194]
Most recently updated: January 1, 2015
Language: Welsh
Credits: Transcribed from the 1911 Ab Owen, Llanuwchllyn edition by David Price
Transcribed from the 1911 Ab Owen, Llanuwchllyn edition by David Price, email ccx074@pglaf.org
*
CASGLWYD
GAN
OWEN M. EDWARDS.
Y DARLUNIAU
GAN
WINIFRED HARTLEY
(Lowrie Wynn.)
1911
Ab Owen, Llanuwchllyn.
Argraffwyd a Chyhoeddwyd, dros Ab
Owen, gan
R. E. Jones a’i Frodry,
Conway.
Ambell orig daw hen hwiangerdd, fel su melodaidd o gartref pell a hoff, i’r meddwl. Daw un arall ar ei hol, ac un arall,—a chyda hwy daw adgofion cyntaf bore oes. Daw’r llais mwynaf a glywsom erioed i’n clust yn ol, drwy stormydd blynyddoedd maith; daw cof am ddeffro a sylwi pan oedd popeth yn newydd a rhyfedd. A daw ymholi ond odid. Beth yw tarddle swyn yr hen gerddi hwian syml hyn? Pa nifer ohonynt fedraf? Pa nifer sydd ohonynt yn llenyddiaeth Cymru? A ydynt yn llenyddiaeth? Beth fu eu dylanwad ar fy mywyd? A adawsant ryw nod ar lenyddiaeth Cymru?
O ble y daethant? Y mae iddynt ddau darddiad. Yn un peth,—y maent yn adlais o ryw hen bennill genid gyda’r delyn. Cofid y rhannau mwyaf melodaidd, rhyw seiniau fynnai aros yn y glust, gan fam neu forwyn, a byddent yn llais i lawenydd y galon wrth suo’r plentyn i gwsg. A ffynhonnell arall,—yr oedd y fam yn creu cerddi hwian, nid i wneyd i’r plentyn gysgu, ond i’w gadw’n ddiddig pan ar ddihun. Ac y mae cof gwlad wedi trysori ymgais y mamau mwyaf athrylithgar.
Ar ei fysedd y sylwa plentyn i ddechreu. Hwy ddefnyddia’r fam yn deganau cyntaf. Rhoddir enwau arnynt,—Modryb ’y Mawd, Bys yr uwd, Hirfys, Cwtfys, Bys bach, neu ryw enwau ereill. Gwneir iddynt chware â’u gilydd; llechant yng nghysgod eu gilydd, siaradant â’u gilydd; ant gyda’u gilydd i chware, neu i hel gwlan, neu i ladd defaid i’r mynydd. Yr oedd yr olaf yn fater crogi yr adeg honno, ac felly yr oedd y chware yn un pur gyffrous. Yr oedd i bob bys gymeriad hefyd; bys yr uwd oedd y cynlluniwr, yr hirfys oedd y gweithiwr cryf eofn, y cwtfys oedd y beirniad ofnus, a’r bys bach, druan, oedd yn gorfod dilyn y lleill neu gario dŵr. Yn llenyddiaeth gyntaf plentyn, y bysedd yw’r actors yn y ddrama.
Wedi’r bysedd, y traed oedd bwysicaf. Eid trwy yr un chware gyda bysedd y traed drachefn. A difyr iawn oedd pedoli, curo gwadnau’r traed bob yn ail, a phedoli dan ganu.
Nodwedd bennaf plentyn iach, effro yw, nas gall fod eiliad yn llonydd. Mae pob gewyn ynddo ar fynd o hyd. Ac y mae mynd yn yr hen hwiangerddi. Gorchest arwrol gyntaf plentyn yw cael ei ddawnsio’n wyllt ar y lin. “Gyrru i Gaer” yw anturiaeth fawr gyntaf dychymyg y rhan fwyaf o blant Cymru. Ac y mae afiaeth mawr i fod ar y diwedd, i ddynodi rhyw drychineb ysmala,—dod adre wedi priodi, boddi yn y potes, neu dorri’r pynnaid llestri’n deilchion. Mae’r coesau a’r breichiau bychain i fynd ar eu gwylltaf, ac y mae edyn mân dychymyg y plentyn yn chware’n wyllt hefyd.
Yr un cerddi hwian, mewn llais distawach, dwysach, a suai y plentyn i gwsg. Ai’r llong i ffwrdd yn ddistaw, carlamai’r cel bach yn esmwyth, doi’r nos dros furiau Caer.
A yw’r hwiangerddi’n foddion addysg? Hwy rydd addysg oreu plentyndod. Am genedlaethau’n ol, ceisid dysgu plant yn yr ysgol o chwith. Ceisid eu cadw’n llonydd, a hwythau’n llawn awydd symud. Ceisid eu cadw’n ddistaw, a hwythau’n llawn awydd parablu. Dofi, distewi, disgyblu oedd o hyd. Erbyn hyn deallir egwyddorion dysgu plentyn yn well. Gellid rhoddi rhestr hir o athronyddion dysg plant, a dangos fel y gwelsant, o un i un yn raddol, wir ddull dysgu plant. A’r dull hwnnw yw,—dull yr hwiangerddi. Dysgir y plentyn i astudio’i fysedd. Ca fynd ar drot ac ar garlam yr adeg y mynno. Ac ymhob cerdd, daw rhyw agwedd darawiadol ar y natur ddynol i’r golwg. Ei siglo’n brysur ar y glin i swn rhyw hen gerdd hwian,—dyna faban ar ben gwir Iwybr ei addysg. Ni fyddaf yn credu dim ddwed yr athronwyr am addysg babanod os na fedrir ei brofi o’r hwiangerddi. Ynddynt hwy ceir llais greddf mamau’r oesoedd; o welediad clir cariad y daethant, ac o afiaeth llawenydd iach.
A yw’r cerddi hwian yn llenyddiaeth? Ydynt, yn ddiameu. Y mae iddynt le mor bwysig mewn llenyddiaeth ag sydd i’r plentyn yn hanes dyn. Y mae llenyddiaeth cenedl yn dibynnu, i raddau mawr, ar ei hwiangerddi. Os mynnech ddeall nodweddion cenedl, y dull chwilio hawddaf a chyrfymaf a sicraf yw hwn,—darllennwch ei cherddi hwian. Os ydynt yn greulon ac anonest eu hysbryd, yn arw a chras, yn fawlyd a dichwaeth, rhaid i chwi ddarllen hanes cenedl yn meddu yr un nodweddion. Os ydynt yn felodaidd a thyner, a’r llawenydd afteithus yn ddiniwed, cewch genedl a’i llenyddiaeth yn ddiwylledig a’i hanes yn glir oddiwrth waed gwirion. Nis gall y Cymro beidio bod a chlust at felodi, wedi clywed y gair “pedoli” bron yn gyntaf un, a hwn yn gyntaf pennill,—
“Mae gen i ebol melyn,
Yn codi’n bedair oed;
A phedair pedol arian,
O dan ei bedwar troed.”
Disgwylir i mi ddweyd, mae’n ddiau gennyf, ymhle y cefais yr holl gerddi hwian hyn. Gwaith araf oedd eu cael, bum yn eu casglu am dros ugain mlynedd. Ychydig genir yn yr un ardal, daw y rhai hyn bron o bob ardal yng Nghymru. Cefais hwy oddiwrth rai ugeiniau o gyfeillion caredig, yn enwedig pan oeddwn yn olygydd Cymru’r Plant. A chefais un fantais fawr yng nghwrs fy addysg,—nid oes odid blentyn yng Nghymru y canwyd mwy o hwiangerddi iddo.
Hyd y gwn i; Ceiriog ddechreuodd gasglu hwiangerddi Cymru, yn yr Arweinydd, yn 1856 ac 1857. Condemnid y golygydd, Tegai, am gyhoeddi pethau mor blentynaidd. Ond daeth yr hanesydd dysgedig Ab Ithel, oedd wedi cyhoeddi’r Gododin ac yn paratoi’r Annales Cambriae y Brut y Tywysogion i’r wasg, i’w amddiffyn yn bybyr. Cawr o ddyn oedd Ab Ithel; y mae rhai o wyr galluocaf a mwyaf dysgedig Cymru, yn ogystal a phlant ysgol, wedi’m helpu innau i wneyd y casgliad hwn. Cyhoeddwyd casgliad Ceiriog wedi hyn yn “Oriau’r Haf.” Nid oes ynddo ddim o gerddi hwian y De. Cyhoeddodd Cadrawd rai o gerddi hwian Morgannwg yn ei “History of Llangynwyd Parish” yn 1887. Yn ddiweddarach cyhoeddwyd casgliad gyda darluniau prydferth yng Nghonwy, [0a] a chasgliad gan Cadrawd gyda cherddoriaeth o drefniad Mr. Harry Evans ym Merthyr Tydfil. [0b]
Nid y lleiaf o arwyddion da am ddyfodol Cymru yw fod yr hen hwiangerddi swynol hyn i’w clywed eto yn ei chartrefi ac yn ei hysgolion.
OWEN M. EDWARDS.
Y bachgen
boch-goch,
A’r bochau brechdan,
A’r bais dew,—
O ble doist ti?
Mae gen i ebol
melyn,
Yn codi’n bedair ced,
A phedair pedol arian
O dan ei bedwar troed;
Mi neidia ac mi brancia
O dan y feinir wen,
Fe reda ugain milldir
Heb dynnu’r ffrwyn o’i ben.
Gyrru, gyrru, gyrru
i Gaer;
I briodi merch y maer;
Gyrru, gyrru, gyrru adre,
Wedi priodi ers diwrnodie.
Ar garlam, ar
garlam,
I ffair Abergele;
Ar ffrwst, ar ffrwst,
I ffair Lanrwst.
Dau gi bach yn mynd
i’r coed,
Dan droi’u fferrau, dan droi’u troed;
Dau gi bach yn dyfod adre,
Blawd ac eisin hyd eu coese.
Dandi di, dandi
do,
Welwch chwi ’i sgidie newydd o?
Ar i fyny, ar i wared,
Bydd y bachgen bach yn cerdded.
Ymlaen, geffyl
bach,
I’n cario ni’n dau
Dros y mynydd
I hela cnau.
Ymlaen, geffyl bach,
I’n cario ni’n tri
Dros y mynydd
I hela cnu.
Sion a Sian,
oddeutu’r tân,
Yn bwyta blawd ac eisin mân.
Beti bach a
finnau
Yn mynd i Lundain G’lanmai;
Os na chawn ni’r ffordd yn rhydd,
Mi neidiwn dros y cloddiau.
Beti bach a finne,
Yn mynd i Lundain Glame;
Mae dŵr y môr yn oer y nos,
Gwell inni aros gartre.
Lodes ei mam, a
lodes ei thad,
A fentri di gyda fi allan o’r wlad,
Lle mae gwin yn troi melinau,
A chan punt am gysgu’r borau?
Mi af i Lundain
Glamai
Os byddai byw ac iach,
Ni ’rosa i ddim yng Nghymru
I dorri ’nghalon bach;
Mae digon o arian yn Llundain,
A swper gyda’r nos,
A mynd i ’ngwely’n gynnar,
A chodi wyth o’r gloch.
Si hei-li-lwli,
’r babi,
Mae’r llong yn mynd i ffwrdd;
Si hei-li-lwli, ’r babi,
Mae’r capten ar y bwrdd.
Chwe dafad
gorniog,
A chwe nod arni, [14b]
Ac ar y bryniau garw,
’Roedd rheiny i gyd yn pori;
Dafad wen, wen, wen,
Ie benwen, benwen, benwen;
Ystlys hir a chynffon wen,
Wen, wen.
Iar fach dlos
Yw fy iar fach i;
Pinc a melyn,
A choch a du.
Gwcw fach, ond
’twyt ti’n ffolog,
Ffal di ral di rw dw ti rei tei O,
Yn canu ’mhlith yr eithin pigog,
Ffal di ral di rw dw ti rei tei O;
Dos i blwy Dolgellau dirion,
Ffal di ral di rw dw ti rei tei O;
Ti gei lwyn o fedw gwyrddion,
Ffal di ral di rw dw ti rei tei O.
Llygod mân yn
chwythu’r tân,
A’r malfod yn gweu melfed.
Gyrru, gyrru, drot
i’r dre,
Dwad adre erbyn te.
Gyrru, gyrru, i
Gaerdydd,
Mofyn pwn o lestri pridd;
Gyrru, gyrru’n ol yn glau,
Llestri wedi torri’n ddau.
Pandy, pandy, melin
yn malu,
Gweydd yn gweu a’r ffidil yn canu;
Ceffyl bach du a’r gynffon wen
Yn cario Gwen a Mari.
Tomos Jones yn mynd
i’r ffair,
Ar gefn ei farch a’i gyfrwy aur;
Ac wrth ddod adre cwyd ei gloch,
Ac yn ei boced afal coch.
’Ar drot, ar
drot, i dŷ Shon Pot,
Ar whîl, ar whîl, i dŷ Shon Pîl;
Ar garlam, ar garlam, i dŷ Shon Rolant,
Bob yn gam, bob yn gam, i dŷ f’ewythr Sam.
Iohn bach a
finne,
Yn mynd i Lunden Glame;
Ac os na chawn ni’r ffordd yn glir,
Ni neidiwn dros y cloddie.
Croen y ddafad
felen,
Yn towlu’i throed allan;
Troed yn ol, a throed ymlaen,
A throed yn towlu allan.
“Ding
dong,” medd y gloch,
Canu cnul y bachgen coch;
Os y bachgen coch fu farw,
Ffarwel fydd i’r gwin a’r cwrw.
Dacw tada’n
gyrru’r moch,
Mochyn gwyn, a mochyn coch;
Un yn wyn yn mynd i’r cwt,
A’r llall yn goch a chynffon bwt.
Dau droed bach yn
mynd i’r coed,
Esgid newydd am bob troed;
Dau droed bach yn dwad adre
Wedi colli un o’r ’sgidie.
Dau droed bach yn
mynd i’r felin,
I gardota blawd ac eithin;
Dau droed bach yn dyfod adra,
Dan drofera, dan drofera.
Carreg o’r Nant,
Wnaiff Iant;
Carreg o’r to,
Wnaiff o,—
Ianto.
Deio bach a minne
Yn mynd i werthu pinne;
Un res, dwy res,
Tair rhes am ddime.
Modryb y fawd,
Bys yr uwd,
Pen y cogwr,
Dic y peipar,
Joli cwt bach.
“Ddoi di
i’r mynydd?” meddai’r fawd,
“I beth?” meddai bys yr uwd;
“I hela llwynog” meddai’r hir-fys; [19b]
“Beth os gwel ni?” meddai’r canol-fys;
“Llechu dan lechen” meddai bys bychan.
Buarth, baban,
cryman, croes;
Modrwy aur i’r oreu ’i moes.
Mi af i’r
ysgol fory,
A’m llyfyr yn fy llaw;
Heibio’r Castell Newydd,
A’r cloc yn taro naw;
Dacw mam yn dyfod,
Ar ben y gamfa wen,
A rhywbeth yn ei barclod,
A phiser ar ei phen.
Mi af i’r ysgol fory,
A’m llyfyr yn fy llaw,
Heibio’r Sgubor Newydd,
A’r cloc yn taro naw;
O, Mari, Mari, codwch,
Mae heddyw’n fore mwyn,
Mae’r adar bach yn canu,
A’r gôg ar frig y llwyn.
Mi fum yn gweini
tymor
Yn ymyl Ty’n y Coed,
A’dyna’r lle difyrraf
Y bum i ynddo ’rioed;
Yr adar bach yn canu,
A’r coed yn suo ynghyd,—
Fy nghalon fach a dorrodd,
Er gwaetha rhain i gyd.
Pwsi mew, pwsi
mew,
Lle collaist ti dy flew?
“Wrth gario tân
I dŷ modryb Sian,
Yng nghanol eira a rhew.”
Shincin Sion
o’r Hengoed
Aeth i foddi cath,
Mewn cwd o lian newydd,
Nad oedd e damed gwaeth;
Y cwd a aeth ’da’r afon,
A’r gath a ddaeth i’r lan,
A Shincin Sion o’r Hengoed
Gas golled yn y fan.
“Wel,
wel,”
Ebe ci Jac Snel,
“Rhaid i mi fynd i hel,
Ne glemio.”
Pwsi meri mew,
Ble collaist ti dy flew?
“Wrth fynd i Lwyn Tew
Ar eira mawr a rhew.”
“Pa groeso gest ti yno.
Beth gefaist yn dy ben?”
“Ces fara haidd coliog,
A llaeth yr hen gaseg wen.”
Llidiart newydd ar
gae ceirch,
A gollwng meirch o’r stablau;
Cywion gwyddau, ac ebol bach,
Bellach ddaw Calanmai.
Mae gen i darw
penwyn,
A gwartheg lawer iawn;
A defaid ar y mynydd,
A phedair dâs o fawn.
Mae gen i gwpwrdd cornel,
A set o lestri te;
A dresser yn y gegin,
A phopeth yn ei le.
Mae gen i drol a cheffyl,
A merlyn bychan twt,
A phump o wartheg tewion,
Yn pori yn y clwt.
Dacw dŷ, a dacw
do,
Dacw efail Sion y go;
Dacw Mali wedi codi,
Dacw Sion a’i freichiau i fyny.
Ar y ffordd wrth
fynd i Ruthyn,
Gwelais ddyn yn gwerthu brethyn;
Gofynnais iddo faint y llath,
Fod arnaf eisio siwt i’r gath.
(I ddynwared swn ysturmant.)
Dwr glân gloew,
Bara chaws a chwrw.
(I ddynnwared Cân Ysguthan.)
Cyrch du, du,
Yn ’y nghwd i.
Sian bach anwyl,
Sian bach i;
Fi pia Sian,
A Sian pia fi.
Pan brioda Sion a
minnau,
Fe fydd cyrn ar bennau’r gwyddau;
Ieir y mynydd yn bluf gwynion;
Ceiliog twrci fydd y person.
Sion a Sian yn mynd
i’r farchnad,
Sian yn mynd i brynnu iar,
A Sion i werthu dafad.
Rhowch y crochan ar
y tân,
A phen y frân i ferwi;
A dau lygad y gath goed,
A phedwar troed y wenci.
Ust, O taw!
Ust, O taw,
Aeth dy fam i Loeger draw;
Hi ddaw adre yn y man,
A llond y cwd o fara cann.
Bachgen bach
ydi’r bachgen gore,
Gore, gore;
Cysgu’r nos, a chodi’n fore,
Fore, fore.
Hen fenyw fach
Cydweli
Yn gwerthu losin du;
Yn rhifo deg am geiniog,
Ond un ar ddeg i fi.
Morfudd fach, ferch
ei mham,
Gaiff y gwin a’r bara cann;
Hi gaiff ’falau per o’r berllan,
Ac yfed gwin o’r llester arian.
Morfudd fach, merch
ei thad,
Gaiff y wialen fedw’u rhad;
Caiff ei rhwymo wrth bost y gwely
Caiff ei chwipio bore yfory.
Whic a whiw!
Aeth y barcud a’r ciw;
Os na feindwch chwi ato,
Fe aiff ag un eto.
Mae gen i hen iar dwrci,
A mil o gywion dani;
Pob un o rheiny yn gymaint ag ych,—
Ond celwydd gwych yw hynny?
Mae gen i iar a cheiliog
A brynnais i ar ddydd Iau;
Mae’r iar yn dodwy wy bob dydd,
A’r ceiliog yn dodwy dau.
Mae gen i iar a
cheiliog,
A hwch a mochyn tew;
Rhwng y wraig a finne,
’R ym ni’n eig wneyd hi’n lew.
Mae gen i ebol
melyn
A merlen newydd spon,
A thair o wartheg blithion
Yn pori ar y fron;
Mae gen i iar a cheiliog,
Mi cefais er dydd Iau,
Mae’r iar yn dodwy wy bob dydd
A’r ceiliog yn dodwy dau.
Shoni Brica Moni
Yn berchen buwch a llo;
A gafar fach, a mochyn,
A cheiliog, go-go-go!
Mi welais nyth
pioden,
Fry, fry, ar ben y goeden,—
A’i chynffon hi mas.
Dafi bach a
minne,
Yn mynd i Aberdâr,
Dafi’n mofyn ceiliog,
A minne’n ’mofyn giar.
“Wel,”
meddai Wil wrth y wal,
Wedodd y wal ddim wrth Wil.
Mae’n dda gan
hen wr uwd a lla’th
Mae’n dda gan gath lygoden;
Mae’n dda gan ’radwr flaen ar swch,
Mae’n dda gan hwch y fesen.
Mae gen i, ac mae
gen lawer,
Gloc ar y mur i gadw amser;
Mae gan Moses, Pant y Meusydd,
Gloc ar y mur i gadw’r tywydd.
Mi welais ddwy
gabetsen,
Yn uwch na chlochdy Llunden;
A deunaw gŵr yn hollti ’rhain,
A phedair cainc ar hugain.
Mi welais i beth na
welodd pawb,—
Y cwd a’r blawd yn cerdded;
Y frân yn toi ar ben y ty,
A’r malwod yn gwau melfed.
Mi welais innau
falwen goch,
A dwy gloch wrth ei chlustiau;
A dau faen melin ar ei chefn,
Yn curo’r milgwn gorau.
Do, mi welais innau
wennol,
Ar y traeth yn gosod pedol;
Ac yn curo hoel mewn diwrnod,—
Dyna un o’r saith rhyfeddod.
Mi weles beth na
welodd pawb,—
Y cwd a’r blawd yn cerdded,
Y frân yn toi ar ben y ty,
A’r gŵr mor hy a hedeg;
A hogyn bach, dim mwy na mi,
Yn Ilyncu tri dyniawed.
’Roedd gen i
ddafad gorniog,
Ac arni bwys o wlan,
Yn pori ar lan yr afon
Ymysg y cerrig mân;
Fe aeth yr hwsmon heibio,
Hanosodd arni gi;
Ni welais i byth mo’m dafad,
Ys gwn i a welsoch chwi?
Mi gwelais hi yn y Bala,
Newydd werthu ei gwlan,
Yn eistedd yn ei chadair,
O flaen tanllwyth mawr o dân;
A’i phibell a’i thybaco,
Yn smocio’n abal ffri,
A dyna lle mae y ddafad,—
Gwd morning, Jon, how di!
’Roedd gen i
iar yn gorri,
Ar ben y Penmaen Mawr,
Mi eis i droed y Wyddfa
I alw arni i lawr;
Mi hedodd ac mi hedodd,
A’i chywion gyda hi,
I ganol tir y Werddon,—
Good morning, John! How di?
Troi a throsi, troi
i ble?
I Abergele i yfed te.
Fuost ti erioed yn
morio?
“Do, mewn padell ffrio;
Chwythodd y gwynt fi i Eil o Man,
A dyna lle bum i’n crio.”
Dacw long yn
hwylio’n hwylus,
Heibio’r trwyn, ac at yr ynys;
Os fy nghariad i sydd ynddi,
Hwyliau sidan glas sydd arni.
Cwch bach ar y
môr,
A phedwar dyn yn rhwyfo;
A Shami pwdwr wrth y llyw
Yn gwaeddi,—“Dyn a’n
helpo.”
Mae gen i dŷ
bach del,
O dŷ bach del, O dŷ bach del,
A’r gwynt i’r drws bob amser;
Agorwch dipyn o gil y ddôr,
O gil y ddôr, o gil y ddôr,
Cewch weld y môr a’r llongau.
Ioan bach a
finnau
Yn mynd i ddwr y môr;
Ioan yn codi ’i goesau,
A dweyd fod dŵr yn oer.
Tri graienyn, tri
maen melin,
Tair llong ar fôr, tri môr, tri mynydd;
A’r tri aderyn a’r traed arian,
Yn tiwnio ymysg y twyni mân.
Mae fy nghariad wedi
digio,
Nis gwn yn wir pa beth ddaeth iddo;
Pan ddaw’r gwibed bach a chywion,
Gyrraf gyw i godi ei galon.
Mi af oddiyma i ben
Carn Fadryn,
Er mwyn cael gweled eglwys Nefyn;
O ddeutu hon mae’r plant yn chware,
Lle dymunwn fy mod inne.
Siglo’r cryd
â’m troed wrth bobi,
Siglo’r cryd â’m troed wrth olchi;
Siglo’r cryd ymhob hysywaeth,
Siglo’r cryd sy raid i famaeth.
Mae nhw’n
dwedyd yn Llanrhaiad,
Mai rhyw deiliwr wnaeth y lleuad;
A’r rheswm am fod goleu drwyddo,
Ei fod heb orffen cael ei bwytho.
Coes un ddel, ac
hosan ddu,
Fel a’r fel, fel a’r fu;
Fel a’r fu, fel a’r fel,
Ac hosan ddu coes un ddel.
Y Bryn,—“Igam Ogam, ble’r ei
di?”
Yr Afon,—“Moel dy ben, nis gwaeth i ti.”
Y Bryn,—“Mi dyf gwallt ar fy mhen i
Cyn unioni’th arrau ceimion di.”
Pan es i gynta i
garu,
O gwmpas tri o’r gloch,
Mi gurais wrth y ffenestr,
Lle’r oedd yr hogen goch.
Tri pheth sy’n
hawdd eu siglo,—
Llong ar fôr pan fydd hi’n nofio,
Llidiart newydd ar glawdd helyg,
A march dan gyfrwy merch fonheddig.
Dyma arfer pobl
Penllyn,—
Canu a dawnsic hefo’r delyn,
Dod yn ol wrth oleu’r lleuad,
Dwyn y llwdn llwyd yn lladrad.
Caf finnau ddillad
newydd
O hyn i tua’r Pasg,
Mi daflaf rhain i’r potiwr,
Fydd hynny fawr o dasg;
Caf wedyn fynd i’r pentre,
Fel sowldiwr bach yn smart,
A phrynnaf wn a chledde,
I ladd ’rhen Fonipart.
Eglwys fach
Pencarreg,
Ar ben y ddraenen wen;
A chlochdy mawr Llanbydder
Yn Nheifi dros ei ben.
Pan oedd y ci ryw
noson,
Yn ceisio crafu’r crochon,
’Roedd Wil o’r Pant, nai Beti Sian,
Yn cynnal bla’n ’i gynffon.
Twm yr ieir aeth
lawr i’r dre,
A giar a cheiliog gydag e;
Canodd y ceiliog,—“Go-go-go”;
Gwaeddodd Twm,—“Halo! Halo!”
Fe ddaw Gwyl Fair,
fe ddaw Gwyl Ddewi,
Fe ddaw’r hwyaden fach i ddodwy.
Hei, gel bach, tua
Chaerdydd,
’Mofyn pwn o lestri pridd;
Hei, gel mawr, i Aberhonddu,
Dwmbwr dambar, llestri’n torri.
Gyrru, gyrru, drot
i’r dre,
’Mofyn bara cann a the.
Gyrru, gyrru, i
ffair Henfeddau,
’Mofyn pinnau, ’mofyn ’falau.
Gyrru, gyrru, i
ffair y Rhos;
Mynd cyn dydd a dod cyn nos.
Gyrru, gyrru, i
ffair y Fenni;
’Mofyn cledd i ladd y bwci.
Welwch chwi cel
bach
Yn ein cario ni’n dau?
Mynd i ochor draw’r afon
Gael eirin a chnau.
Mam gu, mam gu,
dewch maes o’r ty,
Gael gweld John Jones ar gefn y ci.
Mari lân, a
Mari lon,
A Mari dirion doriad,
Mari ydyw’r fwyna’n fyw,
A Mari yw fy nghariad;
Ac onid ydyw Mari’n lân,
Ni wiw i Sian mo’r siarad.
Trot, trot,
tua’r dre,
‘Mofyn pwn o lestri te;
Trot, trot, tua’r dre,
I mofyn set o lestri te;
Galop, galop, tua chartre,
Torri’r pwn a’r llestri’n gate.
Mari John, ffidil a
ffon,
Cyllell a bilwg i chware ding dong.
Sion a Siani
Siencyn,
Sy’n byw yn sir y Fflint;
Sian yn ennill chweugain,
A Sion yn ennill punt.
Dafi Siencyn
Morgan,
Yn codi’r dôn ei hunan;
A’i isaf en e nesa i fiwn,
A dyna’r ffordd i ddechre tiwn.
Robin goch a’r
Dryw bach
Yn fy nghuro i fel curo sach;
Mi godais innau i fyny’n gawr,
Mi drewais Robin goch i lawr.
Ji binc, ji binc, ar
ben y banc,
Yn pwyso hanner cant o blant.
Shinc a Ponc a
finne
Yn mynd i ffair y pinne;
Dod yn ol ar gefn y frân,
A phwys o wlan am ddime.
Robin goch ar ben y
rhiniog,
Yn gofyn tamaid heb un geiniog;
Ac yn dwedyd yn ysmala,—
“Mae hi’n oer, mi ddaw yn eira.”
Si so, Jac y Do,
Dal y deryn dan y to,
Gwerthu’r fuwch a lladd y llo,
A mynd i Lunden i roi fro;
Dene diwedd Jac y Do.
Y dyrnwr yn
dyrnu,
Y ffidil yn canu;
A Robin goch bach
Yn dawnsio’n y beudy.
Rhowch imi fenthyg
ceffyl,
I fyned dros y lan,
I garu’r ferch fach ifanc
Sy’n byw ’da ’i thad a’i
mham;
Ac oni ddaw yn foddus,
A’i gwaddol gyda hi,
Gadawaf hi yn llonydd,
Waith bachgen pert wyf fi.
Mae gennyf dŷ
cysurus,
A melin newydd dwt,
A chwpwrdd yn y gornel,
A mochyn yn y cwt.
Y llepyn llo
a’r gwyneb llwyd,
Ti fyti fwyd o’r goer;
Pe torrit gwys fel torri gaws,
Fe fyddai’n haws dy ddiodde.
Dic Golt a gysgodd
yn y cart,
Fe’i speiliwyd o’i geffyle;
A phan ddihunodd, holi wnai,—
“Ai Dic wyf fi, ai nage?
Os Dic wyf fi, ces golled flin,—
Mi gollais fy ngheffyle;
Ac os nad Dic, ’rwy’n fachgen smart,
Enillais gart yn rhywle.”
Shigwti wen Shon-Gati,
Mae crys y gŵr heb olchi,
Fe aeth yr olchbren gyda’r nanf,
A’r wraig a’r plant yn gwaeddi.
Gwern a helyg
Hyd Nadolig.
Bedw, os cair,
Hyd Wyl Fair;
Cringoed caeau
O hynny hyd Glamai;
Briwydd y frân
O hynny ymlaen.
Aeth fy Ngwen i
ffair Pwllheli,
Eisio padell bridd oedd arni;
Rhodd am dani saith o sylltau,
Cawswn i hi am dair a dimau.
Aeth fy Ngwen ryw
fore i olchi,
Eisio dillad glân oedd arni;
Tra bu Gwen yn ’mofyn sebon,
Aeth y dillad hefo’r afon.
Aeth fy Ngwen ryw
fore i gorddi,
Eisio menyn ffres oedd arni;
Tra bo Gwen yn ’mofyn halen,
Aeth y ci a’r menyn allan.
Seren ddu a
mwnci,
Sion y gof yn dyrnu,
Modryb Ann yn pigo pys,
A minnau’n chwys dyferu.
Si so gorniog,
Grot â pheder ceiniog,
Un i mi, ac un i chwi,
Ac un i’r dyn,
Am fenthyg y lli gorniog.
Ceiliog bach y
Wyddfa
Yn canu ar y bryn,
Hwyaid Aber Glaslyn
Yn nofio ar y llyn;
Gwyddau Hafod G’regog
Yn gwaeddi “wich di wach,”
A milgwn Jones Ynysfor
Ar ol y llwynog bach.
Mae yn y Bala flawd
ar werth,
Mae’n Mawddwy berth i lechu,
Mae yn Llyn Tegid ddwr a gro,
Mae’n Llundain o i bedoli;
Ac yng Nghastell Dinas Brân
Mae ffynnon lân i ymolchi.
Briodi di?
Na wnaf byth!
Wyt ti’n siwr?
Ydw’n siwr.
Hen lanc yn byw fy hunan
Ydwyf fi;
Yn meddu cwrs o arian,
Ydwyf fi;
Yn meddwl am briodi?
Priodi, na wnaf byth;
Waeth beth fydd gennyf wedyn,
Ond poenau lond fy nyth.
Mae nhw’n
dwedyd ac yn son
Mod i’n caru yn sir Fon;
Minne sydd yn caru’n ffyddlon
Dros y dŵr yn sir Gaernarfon.
Caru yng Nghaer, a
charu yng Nghorwen,
Caru yn Nyffryn Clwyd a Derwen;
Caru ’mhellach dros y mynydd,
Cael yng Nghynwyd gariad newydd.
Elisabeth bach, a
briodwch chwi fi?
Dyma’r amser gore i chwi;
Tra bo’r drym yn mynd trwy’r dre,
Tra bo’ch calon bach yn ei lle.
Shontyn, Shontyn, y
gwr tynn;
Clywed y cwbl, a dweyd dim.
Mae’n bwrw
glaw allan,
Mae’n hindda’n y ty,
A merched Tregaron
Yn chwalu’r gwlan du.
Bachgen bach o
Ddowles,
Yn gweithio’n ngwaith y tân,
Bron a thorri ’i galon
Ar ol y ferch fach lân;
Ei goesau fel y pibau,
A’i freichiau fel y brwyn,
Ei ben e fel pytaten,
A hanner llath o drwyn.
Ar y ffordd wrth
fynd i Lerpwl,
Gwelais Iohn ar ben y cwpwr;
Gofynnnis iddo beth oedd o’n wneyd;
“Bwyta siwgwr, paid a deyd.”
Gwelais neithiwr,
drwy fy hun,
Lanciau Llangwm bod yg un;
Rhai mewn uwd, a rhai mewn llymru,
A rhai mewn buddai, wedi boddi.
Pedoli, pedoli,
pe-dinc,
Mae’n rhaid i ni bedoli
Tae e’n costio i ni bunt;
Pedol yn ol, a phedol ymlaen,
Pedol yn eise o dan y droed ase,—
Bi-dinc, bi-dinc, bi-dinc.
Pedoli, pedoli,
pedoli, pe-drot,
Mae’n rhaid i ni bedoli
Tae e’n costio i ni rot;
Pedol yn ol, a phedol ymlaen,
Pedol yn eise o dan y droed ase,—
Bi-drot, bi-drot, bi-drot.
Pedoli, pedoli,
pe-din,
Pedoli’r ceffyl gwyn;
Pedoli, pedoli, pe-doc,
Pedoli’r ebol broc.
Robin dir-rip,
A’i geffyl a’i chwip;
A’i gap yn ei law,
Yn rhedeg trwy’r baw.
“Gw-cw!”
medd y gog,
Ar y gangen gonglog;
“Gw-cw!” medd y llall,
Ar y gangen arall.
Shoni moni, coesau
meinion,
Cwtws y gath yu lle gardyson.
Lle mae ’i
sgidie?
Pwy sgidie?
Sgidie John.
Pwy John?
John diti.
Pwy diti?
Diti ’i fam.
Pwy fam?
I fam e’.
Pwy e’?
E’ ’i hunan.
Robin goch ar ben y
rhiniog,
A’i ddwy aden yn anwydog;
Ac yn dwedyd yn ysmala,—
“Mae hi’n oer, mi ddaw yn eira.”
Canwch y gloch!
(Tynnu yn un o’r cudynau gwallt)
Curwch y drws!
(Taro’r talcen a’r bys)
Codwch y glicied!
(Gwasgu blaen y trwyn i fyny)
Dowch i mewn, dowch i mewn, dowch i mewn!
(Rhoi’r bys ar y wefus).
Mae gen i gariad
glân, glân,
Gwrid coch a dannedd mân;
Ei dwy ael fel ede sidan,
Gwallt ei phen fel gwiail arian.
Mynd i’r ardd
i dorri pwysi,
Gwrthod lafant, gwrthod lili;
Pasio’r pinc a’r rhosod cochion,
Dewis pwysi o ddanadl poethion.
Ladi bach
benfelen,
Yn byw ar ben y graig,
Mi bobith ac mi olchith,
Gwnaiff imi burion gwraig;
Mi startsith ac mi smwddith,
Gwnaiff imi burion bwyd,
Fe wnaiff i’r haul dywynnu
Ar ben y Garreg Lwyd.
Trueni mawr oedd
gweled
Y merlyn bach diniwed,
Ac arno fe y chwys yn drwyth,
Wrth lusgo llwyth o ddefed.
Glaw bach, cerr
ffordd draw,
A gad i’r haul ddod yma.
Welsoch chwi wynt,
welsoch chwi law?
Welsoch chwi dderyn bach ffordd draw?
Welsoch chwi ddyn â photasen ledr,
Yn saethu llongau brenin Lloegr?
Si so, si so,
Deryn bach ar ben y to;
Ceiniog i ti,
Ceiniog i mi,
A cheiniog i’r iar am ddodwy,
A cheiniog i’r ceiliog am ganu.
Bys i fyny, teg
yfory;
Bys i lawr, glaw mawr.
Daw Clame, daw
Clame,
Daw dail ar bob twyn,—
Daw meistr a meistres
I edrych yn fwyn.
A minne, ’rwy’n coelio,
Yn hela i’m co,
I’r gunog laeth enwyn
Fod ganwaith dan glo.
Amen, person
pren,
Cath ddu a chynffon wen.
Hei ding, diri diri
dywn,
Gyrru’r gwyddau bach i’r cawn;
Dwad ’nol yn hwyr brynhawn,
A’u crombilau bach yn llawn.
Hen wraig bach yn
gyrru gwyddau,
Ar hyd y nos;
O Langollen i Ddolgellau,
Ar hyd y nos;
Ac yn dwedyd wrth y llanciau,
“Gyrrwch chwi, mi ddaliaf finnau,”
O Langollen i Ddolgellau,
Ar hyd y nos.
Hen wraig yn pluo
gwyddau,
Daw yn fuan ddyddiau’r gwyliau.
Mae gen i iar, mae
gen i geiliog,
Mae gen i gywen felen gopog;
Mae gen i fuwch yn rhoi i mi lefrith,
Mae gen i gyrnen fawr o wenith.
Gwydd o flaen
gŵydd,
Gŵydd ar ol gŵydd,
A rhwng pob dwy ŵydd, gŵydd;
Sawl gŵydd oedd yno?
Mi af i’r
eglwys Ddywsul nesa,
Yn fy sidan at fy sodla;
Dwed y merched wrth eu gilydd,—
“Dacw gariad Wil Felinydd.”
Os Wil Felinydd wyf yn garu,
Rhoddaf bupur iddo falu;
Llefrith gwyn i yrru’r felin,
A chocos arian ar yr olwyn.
Mae’n dda gen i fuwch,
Mae’n dda gen i oen,
Mae’n dda gen i geffyl
Yn llydan ei ffroen;
Mae’n dda gen i ’r adar
Sy’n canu yn y llwyn.
Mae’n dda gen i fachgen
A chrwb ar ei drwyn;
A thipyn bach bach o ol y frech wen,
Yn gwisgo het befer ar ochor ei ben.
Mi fynnai wraig, mi
wranta,
Caiff godi’r bore’n nghynta;
Troed yn ol a throed ymlaen,
A throed i gicio’r pentan.
Pry bach yn mynd
i’r coed,
Dan droi ’i ferrau, dan droi ’i droed;
Dwad adre yn y bore,
Wedi colli un o’i sgidie.
Pry bach yn edrych am dwll,
Yn edrych am dwll, yn edrych am dwll,
Pry bach yn edrych am dwll,
A dyma dwll, dwll, dwll, dwll, dwll.
Bowden,
Gwas y Fowden,
Libar labar,
Gwas y stabal,
Bys bach, druan gŵr,
Dorrodd ’i ben wrth gario dŵr
I mam i dylino.
“I’r
coed,” medde Modryb y Mawd,
“I be?” medde Bys yr Uwd;
“I ladrata,” medde Hirfys;
“Beth os dalian ni?” medde’r Canol-fys;
“Dengwn, dengwn, rhag iddo’n dal ni,”
Medde’r Bys Bach.
Bwgan bo lol, a
thwll yn ’i fol,
Digon o le i geffyl a throl.
Mae geneth deg
ben-felen
Yn byw ym Mhen y Graig,
Dymunwn yn fy nghalon
Gael honno imi’n wraig;
Hi fedr bobi a golchi,
A thrin y tamaid bwyd,
Ac ennill llawer ceiniog
Er lles y bwthyn llwyd.
Y wylan fach
adnebydd
Pan fo’n gyfnewid tywydd;
Hi hed yn deg, ar aden wen,
O’r môr i ben ymynydd.
Dacw ’nghariad
ar y dyffryn,
Llygaid hwch a dannedd mochyn;
A dau droed fel gwadn arad,
Fel dyllhuan mae hi’n siarad.
Dau lanc ifanc yn
mynd i garu,
Ar noswaith dywell fel y fagddu;
Swn cacynen yn y rhedyn
A’u trodd nhw adre’n fawr eu dychryn.
Mi briodaf heddyw yn
ddi-nam,
Heb ddweyd un gair wrth nhad na mam.
Chwarelwr [67] oedd fy nhaid,
Chwarelwr oedd fy nhad;
Chwarelwr ydwyf finnau,
Y goreu yn y wlad;
Chwarelwr ydyw’r baban
Sy’n cysgu yn ei gryd,
Ond tydi o’n beth rhyfedd
Ein bod ni’n chwarelwyr i gyd?
Rhybelwr bychan
ydwyf,
Yn gweithio hefo nhad,
Mi allaf drin y cerrig
Yn well na neb o’r wlad;
’Rwy’n medru naddu Princes,
Y Squares, a’r Counties bach,
Cyn hir caf finnau fargen,
Os byddaf byw ac iach.
Llifio, llifio,
llifio’n dynn,
Grot y dydd y flwyddyn hyn;
Os na lifiwn ni yn glau,
’Nillwn ni ddim grot yn dau.
Dorti, Dorti, bara
gwyn yn llosgi,
Dŵr ar y tân i olchi’r llestri.
Morus y gwynt,
Ac Ifan y glaw,
Daflodd fy nghap
I ganol y baw.
Mae gen i bâr
o glocs,
A rheini’n bâr go dda,
Fe barant dros y gaea,
A thipyn bach yr ha;
Os can nhw wadnau newydd,
Fe barant dipyn hwy;
A saith a dime’r glocsen,
A phymtheg am y ddwy.
Glaw, glaw, cerdda
draw;
Haul, haul, tywynna.
Mae’n bwrw
glaw allan,
Mae’n deg yn y tŷ,
A merched Dol ’r Onnen
Yn cribo’r gwlan du.
Caseg winnau, coesau
gwynion,
Groenwen denau, garnau duon;
Garnau duon, groenwen denau,
Coesau gwynion, caseg winnau.
Hei, ding-a-ding, diri,
Mae poten yn berwi,
Shini a Shani yn gweithio tân dani;
Shani’n ei phuro â phupur a fflŵr,
Ychydig o laeth, a llawer o ddŵr.
Dorti, Dorti, bara
gwyn yn llosgi,
Dŵr ar y tân i olchi’r llestri;
Crafwch y crochan gael creifion i’r ci,
A hefyd gwnewch gofio
Rhoi llaeth i’r gath ddu.
Y ci mawr yn
pobi,
Y ci bach yn corddi,
A’r gath ddu yn golchi
Ei gwyneb yn lân;
Y wraig yn y popty
Yn gwylio’r bara’n crasu,
A’r llygod yn rhostio
Y cig wrth y tân.
Hen ferched bach y
pentre,
Yn gwisgo capie lasie,
Yfed te a siwgr gwyn,
A chadw dim i’r llancie.
Bara a llaeth i’r llancie,
Ceirch i’r hen geffyle,
Cic yn ol, a chic ymlaen,
A dim byd i’r genod.
Si so, jac y do,
Yn gwneyd ei nyth drwy dyllu’r to,
Yn gwerthu’r mawn a phrynnu’r glo,
Yn lladd y fuwch a blino’r llo,
Yn cuddio’r arian yn y gro,
A mynd i’r Werddon i roi tro,
Si so, jac y do.
Mae gen i ebol
melyn
Yn codi’n bedair oed,
A phedair pedol arian
O dan ei bedwar troed;
I’r siop fe geiff garlamu,
I geisio llonnaid sach
O de a siwgr candi
I John a Mari fach.
Mae gen i gath
ddu,
Fu erioed ei bath hi,
Hi gurith y clagwydd,
Hi dynnith ei blu;
Mae ganddi winedd a barf,
A rheini mor hardd,
Hi helith y llygod
Yn lluoedd o’r ardd;
Daw eilwaith i’r ty,
Hi gurith y ci,—
Mi rown i chwi gyngor
I gadw cath ddu.
Ar ol bod yn ferch
ifanc,
A gwisgo fy ffrog wen,
A’m gwallt i wedi ei blethu
Fel coron ar fy mhen;
A’m sgidiau wedi eu polsio,
A’r rheiny’n cau yn glos,—
Ar ol i mi briodi
Rhaid i mi wisgo clocs.
’Rown
i’n meddwl, ond priodi,
Na chawn i ddim ond dawnsio a chanu;
Ond y peth a ges i wedi priodi,
Oedd siglo’r cryd a suo’r babi.
Mae mam ynghyfraith,
hwnt i’r afon,
Yn gweld fy nillad yn rhy wynion;
Mae hi’n meddwl yn ei chalon
Mai ’mab hi sy’n prynnu’r sebon.
Ysgafn boced, dillad
llwyd,
Mawr drugaredd yw cael bwyd;
Mynd o gwmpas, troi o gwmpas,
Ar hyd y fro;
Ymofyn gwaith, dim gwaith,
Trwm yw’r tro.
Pwy fu farw?
“Sion Ben Tarw.”
Pwy geiff y gwpan?
“Sion Ben Tympan.”
Pwy geiff y llwy?
“Pobol y plwy.”
Titw bytaten, i
ble’r aeth dy fam?
Hi aeth i lygota a chafodd beth cam;
Gwraig y ty nesaf a’i triniodd hi’n frwnt,
Hi gurodd ei dannedd yng nghaead y stwnt.
Crio, crio, crio,
Mae Robin ni yn groch;
Canu, canu, canu,
O hyd, mae Robin goch.
Sion i fyny, Sion i
wared,
Sion i garthu tan y gwartheg;
Sion a ŵyr yn well na’r merched
Pa sawl torth a wneir o beced.
Fe geir pedair torth o phioled,
Fe geir wyth o hanner peced;
Ac os bydd y wraig yn hyswi,
Fe geir teisen heblaw hynny.
Abergwesyn, cocyn
coch,
Mae cloch yn Abertawe;
Mae eidion coch yng nghoed Plas Gwent,
A pharlament yn Llunden.
Neidiodd llyffant ar
ei naid
O Lansantffraid i Lunden,
Ac yn ei ol yr eilfed waith
Ar ganllaw pont Llangollen;
Ond yn lle disgynnedd y drydedd waith
Ond ynghanol caerau Corwen.
Dincyll, doncell, yn
y Bridell;
Tair cloch arian yng Nghilgeran;
Uch ac och yn Llandudoch;
Llefain a gwaeddi yn Aberteifi;
Llaeth a chwrw yn Eglwys Wrw;
Cario ceffyl pren trwy Eglwys Wen.
Y cobler coch o
Ruddlan
A aeth i foddi cath,
Mewn cwd o lian newydd
Nad oedd o damed gwaeth;
Y cwd aeth hefo’r afon,
Y gath a ddaeth i’r lan,
Ow’r cobler coch o Ruddlan,
On’d oedd o’n foddwr gwan?
“John, John,
gymri di jin?”
“Cymra, cymra, os ca i o am ddim;”
“Amen,” meddai’r ffon,
“Dwgyd triswllt o siop John.”
Lleuad yn oleu, plant bach yn chwareu,
Lladron yn dwad dan weu hosanau,
Taflu y ’sanau dros ben y cloddiau;
“Amen,” meddai’r ffon,
“Dwgyd sofren o siop John.”
Welsoch chwi Jini
mewn difri?
Yn tydi hi’n grand aneiri?
Heten grand, a bwcwl a band,
Yn tydi hi’n grand, mewn difri?
Bachgen da ’di
Dafydd,
Gwisgo’i sgidie newydd;
Cadw’r hen rai tan yr ha,
Bachgen da ’di Dafydd.
Dacw mam yn dwad
Wrth y garreg wen,
Menyn yn ’i ffedog,
A blawd ar ’i phen;
Mae’r fuwch yn y beudy
Yn brefu am y llo,
A’r llo yr ochr arall
Yn chware banjo.
Cliriwch y stryd, a
sefwch yn rhenc;
Mae Robin, ding denc, yn dwad.
Bachgen bach o Felin
y Wig,
Welodd o ’rioed damaid o gig;
Gwelodd falwen ar y bwrdd,
Cipiodd ei gap, a rhedodd i ffwrdd.
Di-ling, di-ling,
pwdin yn brin;
Meistr yn cael tamed, finne’n cael dim.
Nedi ddrwg, o dwll y
mŵg,
Gwerthu ’i fam am ddime ddrwg.
“Be ’di
dy oed di?”
Yr un oed a bawd fy nhroed,
A thipyn hŷn na nannedd.
Fini, fini, Fawd,
Brawd y Fini Fawd,
Wil Bibi,
Sion Bobwr,
Bys bach, druan gŵr,
Dal ’i ben o dan y dŵr.
Cysga bei, babi,
Yng nghôl dadi;
Neu daw’r baglog mawr
I dy mo’yn di’n awr.
Welwch chwi fi, a
welwch chwi fi?
Welwch chwi’n dda ga i fenthyg ci?
Mae ci modryb Ann
Wedi mynd i’r Llan;
Mae ci modryb Elin
Wedi mynd i’r felin;
Mae ci modryb Catrin
Allan ers meityn;
Mae ci modryb Jane
Wedi mynd yn hen;
Mae ci modryb Sioned
Yn methu a gweled;
Mae ci tad-cu, a chi mam-gu,
Wedi mynd allan hefo’n ci ni;
A chi modryb Ann Ty’n y Coed
Wedi llosgi ’i droed
Mewn padell fawr o bwdin.
Chwllio’r
tŷ a chwalu’r to,
A thynnu efo thennyn,
O forfa Caer i furiau Cent,
Nadolig sy yn dilyn;
A dal y lladron cas a hy,
Fu’n torri ym Mhlas y Celyn.
Mi weles ddwy
lygoden,
Yn cario pont Llangollen;
Yn ol a blaen o gylch y ddôl,
Ac yn eu hol drachefen.
Robin goch o blwy
Rhiwabon,
Lyncodd bâr o fachau crochon;
Bu’n edifar ganddo ganwaith,
Eisieu llyncu llai ar unwaith.
Tri pheth a fedr
Elis,—
Rhwymo’r eisin sil yn gidys,
Dal y gwynt a’i roi mewn coden,
Rhoi llyffethair ar draed malwen.
’Roedd bwch yn
nhroed y Wyddfa
Yn rhwym wrth aerwy pren,
A’r llall yn Ynys Enlli,
Yn ymryson taro pen;
Wrth swn y rhain yn taro,
Mae hyn yn chwedl chwith,
Fe syrthiodd clochdy’r Bermo,
Ac ni chodwyd mohono byth.
Hei gel, i’r
dre; hei gel, adre,—
Ceffyl John bach mor gynted a nhwnte.
Sion a Gwen
sarrug,
Ryw nos wrth y tân,
Wrth son am eu cyfoeth,
I ymremian yr aen;
Sion fynnai ebol
I bori ar y bryn,
A Sian fynnai hwyaid
I nofio ar y llyn.
Mi af oddiyma
i’r Hafod Lom,
Er ei bod hi’n drom o siwrne,
Mi gaf yno ganu cainc
Ar ymyl mainc y simdde;
Ac, ond odid; dyna’r fan
Y bydda i tan y bore.
Helyg a bedw, gwern
a derw,
Cyll, a mall, a bocs, ac yw;
A choed shirins [88a] a gwsberins [88b],
A chelynen werddlas wiw.
Hen wraig o ymyl
Rhuthyn,
Aeth i’r afon i olchi pwdin;
Tra bu’n siarad â’i chymdogion,
Aeth y pwdin efo’r afon,
Ar ol y cwd.
Jim Cro crystyn,
Wan, tw, and ffôr;
Mochyn bach yn eistedd
Yn ddel ar y stol.
Aeth hen wraig
i’r dre i brynnu pen tarw,
Pan ddaeth hi’n ol ’roedd y plant wedi marw;
Aeth i’r llofft i
ganu’r gloch,
Cwympodd lawr i stwnd y moch.
Hen wraig bach yn y
gornel,
A phib yn ei phen;
Yn smocio llaeth enwyn,—
Dyna’r stori ar ben.
Calap ar galap,
a’r asyn ar drot,
A finne’n clunhercan yn ddigon o sport.
Calennig i mi,
calennig i’r ffon,
Calennig i fwyta, y noson hon;
Calennig i’m tad am glytio’m sgidiau,
Calennig i’m mam am drwsio’m sanau.
Dacw nhad yn naddu,
A mam a nain yn nyddu,
Y naill a’r droell fawr, a’r llall a’r droell
fach,
A nhaid yn y gornel yn canu.
Dafad ddu [91]
Finddu, fonddu,
Felen gynffonddu,
Foel, a chudyn a chynffon ddu.
Aderyn y bwn a bama,
A aeth i rodio’r gwylia,
Ac wrth ddod adra ar hyd y nos,
Fe syrthiodd i ffos y Wyddfa.
Mali bach a finna,
Yn mynd i ffair y Bala;
Dod yn ol ar gefn y frân,
A phwys o wlan am ddima.
Shoni o Ben y
Clogwyn
Yn berchen buwch a llo,
A gafar bach a mochyn,
A cheiliog,—go-go-go!
A ddoi di, Mari
anwyl,
I’r eglwys gyda mi?
Fy nghariad, a fy nghoron,
A’m calon ydwyt ti.
Faint ydyw gwIan y
defaid breision,
Hob y deri dando,
Sydd yn pori yn sir Gaernarfon?
Dyna ganu eto.
“Ni gawn goron gron eleni,”—
Tewch, taid, tewch,—
“Am oreu gwlan yn holl Eryri.”
Hei ho! Hali ho!
Gwlan Cwm Dyli, dyma fo.
Bum yn byw yn
gynnil, gynnil,
Aeth un ddafad imi’n ddwyfil;
Bum yn byw yn afrad, afrad,
Aeth y ddwyfil yn un ddafad.
Bum yn byw yn afrad, afrad,
Aeth y ddwyfil yn un ddafad;
Bum yn byw yn gynnil, gynnil,
Aeth un ddafad imi’n ddwyfil.
Ple mae mam-gu?
“Ar ben y Mynydd Du.”
Pwy sydd gyda hi?
“Oen gwyn a myharen ddu.
Fe aeth i lan dros yr Heol Gan,
Fe ddaw i lawr dros yr Heol Fawr.”
’Roedd Sion, a
Sian, a Siencyn,
Yn byw yn sir y Fflint;
Aeth Sion i hela’r cadno,
A Sian i hela’r gwynt;
A Siencyn fu
Yn cadw’r ty.
Ladis bach y pentre,
Yn gwisgo cap a leise;
Yfed te a siwgwr gwyn,
A chadw dim i’r llancie;
A modrwy aur ar ben pob bys,
A chwrr eu crys yn llapre.
Clywch y tarw coch
cethin,
Yn rhuo draw yn y cae eithin;
Clywir o bell, ni welir o byth.
Mae gennyf edefyn
sidan,
Mi dorraf f’ enw f hunan;
M ac A ac O ac U,
A dybl U for William.
Du, du, fel y
frân,
Llathen o gynffon, a thwll yn ei blaen.
Cwcw Glame, cosyn
dime,
Coes y frân ar ben y shime.
Calennig yn gyfan
Ar fore dydd Calan,
Unwaith, dwywaith, tair.
Mi godais yn fore,
Mi gerddais yn ffyrnig,
At dŷ Mr Jones i ofyn calennig;
Os gwelwch yn dda,
Am swllt a chwecheiniog,
Blwyddyn newydd dda
Am ddimai neu geiniog.
Dydd Calan, cynta’r
flwyddyn,
’Rwy’n dyfod ar eich
traws,
I ymofyn am y geiniog,
Neu glwt o fara a chaws;
Edrychwch arna i ’n siriol,
Newidiwch ddim o’ch
gwedd,
Cyn daw Dydd Calan nesaf
Bydd llawer yn y bedd.
Mi godes heddi mas o
’nhy,
A’m ffon a’m cwdyn gyda fi;
A thyma’m neges ar eich traws,
Yw llanw ’nghwd o fara a chaws.
Dydd Calan yw heddy,
onite?
Na rowch chwi ddim i blant y dre;
Ond rhowch galennig pert dros ben
I blant Cwm Coi a phlant Dre Wen.
Dwy ŵydd radlon,
Yn pori’n nglan yr afon,
Yn rhadloned a’r rhadlonaf ŵydd,
Dwy ŵydd radlon.
’Roedd gen i
iar yn gori
Ar ben y Frenni Fawr;
A deg o wyau dani,—
Daeth un ar ddeg i lawr.
B’le
ti’n mynd, b’le ti’n mynd,
Yr hen dderyn bach?
I sythu cyn bo ti’n marw?
Pwy mor uchel wyt ti’n byw,
Gael dweyd wrth Ddafydd Huw?
O, trueni am yr hen dderyn bach.
Mi
weles ferch yn godro,
A menyg am ei dwylo,
Yn sychu’r llaeth yng nghwrr ei chrys,
A merch Dai Rhys oedd honno.
Mae’n dda gen
i ddefaid, mae’n dda gen i ŵyn,
Mae’n dda gen i feinwen a phant yn ei thrwyn;
A thipyn bach bach o ol y frech wen,
Yn gwisgo het befar ar ochr ei phen.
Mae gen i ganu byrr
bach,—
Ffiol a llwy, a sucan a llaeth;
Mae gen i ganu byrr bach sy hwy,—
Ffiol a llaeth, a sucan a llwy.
Tarw corniog, torri
cyrnau,
Heglau baglog, higlau byglau;
Higlau byglau, heglau baglog,
Torri cyrnau tarw corniog.
Pe tasai’r
Wyddfa i gyd yn gaws,
Fe fuasai’n haws cael enllyn;
A Moel Eiddia’n fara gwyn,
A’r llyn yn hufen melyn.
Fy modryb, iy
modryb, a daflodd ei chwd,
Dros bont Aber Glaslyn, i ganol y ffrwd;
Cnau ac afalau oedd ynddo fo’n dynn,
Mi wn fod yn ’difar i’w chalon cyn hyn.
Dydd Gwener a dydd
Sadwrn
Sydd nesa at ddydd Sul;
Daw dada bach tuag adre,
Mewn trol a bastard mul.
Mae gennyf fuwch a
dau gorn arian,
Mae gennyf fuwch yn godro’i hunan;
Mae gennyf fuwch yn llanw’r stwcau,
Fel mae’r môr yn llanw’r beiau.
Marc a Meurig,
b’le buoch chwi’n pori?
“Ar y Waen Las, gerllaw Llety Brongu.”
Beth gawsoch chwi yno yn well nag yma?
“Porfa fras, a dŵr ffynhonna.”
O gwcw, O gwcw,
b’le buost ti cyd
Cyn dod i Benparce? Ti aethost yn fud.
“Meddyliais fod yma bythefnos yn gynt,
Mi godais fy aden i fyny i’r gwynt;
Ni wnes gamgymeriad, nid oeddwn mor ffol,
Corwynt o’r gogledd a’m cadwodd i’n
ol.”
Llifio â llif,
Am geiniog y dydd;
Llifio pren bedw,
Yng nghoed yr hen widw;
Bocs i John, a bocs i finne,
Bocs i bawb drwy’r tŷ ’s bydd eise.
Wil ffril ffralog
A’i gledde tair ceiniog,
Yn erlid y llygod trwy’r llydi;
Aeth y llygod i’r dowlad,
Aeth Wil i ’mofyn lletwad;
Aeth llygod i’r ddol.
Aeth Wil ar eu hol,
Aeth y llygod i foddi,
Aeth Wil i gysgu.
Hen wraig bach, den,
den,
Pais ddu, a het wen,
Calon garreg, a choes bren.
Os gwelwch
chwi’n dda, ga’i grempog?
Mae mam yn rhy dlawd
I brynnu blawd,
A nhad yn rhy ddiog i weithio;
Halen i’r ci bach,
Bwyd i’r gath bach,
Mae ngheg i’n grimpin eisiau crempog.
Dol las lydan,
Lot o wyddau bach penchwiban,
A chlagwydd pen aur, a gwydd ben arian.
Y neb a dynno nyth y
dryw,
Ni wel ddaioni tra bo byw.
Y neb a dynno nyth
ehedydd,
Cyll oddiar ei ben ei fedydd.
Os tynni nyth y
robin,
Ti gei gorco yn dy goffin.
Pan eis i gynta i
garu,
Nid own ond bachgen bach,
Yn methu cyrraedd cusan
Heb fynd i ben stol fach;
Pan es i garu wedyn,
Yr own yn fachgen mawr,
Yn gallu cyrraedd cusan
A ’nwy droed ar y llawr.
Y gwynt ffalwm ar
fawr hwthrwm,
Chwyth dy dŷ di’n bendramwgwm.
Pan own i’n
mynd â brâg tua’r felin,
Meddylies i fi gwrdd â brenin;
Erbyn edrych, beth oedd yno?
Hen gel gwyn oedd bron a thrigo.
A glywaist ti
Gân ein iar ni?—
“Dodwy, dodwy ’rioed,
Heb un esgid am fy nhroed;
A phe bawn yn dodwy byth,
Ni chawn ond un wy yn fy nyth.”
“Taw’r ffolog,” ebai’r ceiliog,
“Wnaeth y crydd ’rioed esgid fforchog.”
“Mi ddodwas wy
heddyw, mi ddodwas wy ddoe;
Mi wn i’r lle’r aeth,—
Morwyn y tŷ holws, gwraig y ty triniws,
Gŵr y ty bytws,—a dyna lle’r aeth.”
Ar garlam, ar
garlam, i ffair Abergele,
Ar ffrwst, ar ffrwst, i ffair Lanrwst,
Ar dith, ar dith, i ffair y Ffrith,
Ar drot, ar drot, i ffair Llan-mot,
O gam i gam i dŷ Modryb Ann.
Mae’r ceiliog coch yn canu,
Mae’n bryd i minne godi,
Mae’r bechgyn drwg yn mynd tua’r glo,
A’r fuwch a’r llo yn brefu.
Iar fach bert yw
ngiar fach i,
Gwyn a choch a melyn a du;
Fe aeth i’r coed i ddodwy wy, [110b]
Cwnmws ei chwt, a ffwrdd â hi.
“A ddoi di i’r coed?” medde
Bibyn wrth Bobyn,
“A ddoi di i’r coed?” medde Richard wrth
Robin,
“A ddoi di i’r coed?” medde’r bachgen ei
hun,
“A ddoi di i’r coed?” medde nhw bod yg un.
“Beth wnawn ni yno?” medde Bibyn
wrth Bobyn,
“Beth wnawn ni yno?” medde Richard wrth Robin,
“Beth wnawn ni yno?” medde’r bachgen ei hun,
“Beth wnawn ni yno?” medde nhw bod yg un.
“Hela’r dryw bach,” medde
Bibyn wrth Bobyn,
“Hela’r dryw bach,” medda Richard wrth
Robin,
“Hela’r dryw bach,” medde’r bachgen ei
hun,
“Hela’r dryw bach,” medde nhw bod yg un.
“Beth wnawn ni wedyn?” medde Bibyn
wrth Bobyn,
“Beth wnawn ni wedyn?” medde Richard wrth Robin,
“Beth wnawn ni wedyn?” medde’r bachgen ei
hun,
“Beth wnawn ni wedyn?” medda nhw bod yg un.
“Gwneyd potes â fo,” medde
Bibyn wrth Bobyn,
“Gwneyd potes â fo,” medde Richard wrth
Robin,
“Gwneyd potes â fo,” medde’r bachgen ei
hun;
A boddi mewn potes ddaru nhw, bod yg un.
Mi ddeuda i ti
stori,—
Hen gaseg yn pori.
Mi ddeuda i ti ddwy,—
Hen gaseg ar y plwy.
Mi ddeuda i ti dair,—
Hen gaseg yn y ffair.
Mi ddeuda i ti beder,—
Hen gaseg yn colli pedol.
Mi ddeuda i ti bump,—
Hen gaseg ar ei phwmp.
Mi ddeuda i ti chwech,—
Hen gaseg frech.
Mi ddeuda i ti saith,—
Hen gaseg fraith.
Mi ddeuda i ti wyth,—
Hen gaseg yn rhoi pwyth.
Mi ddeuda i ti naw,—
Hen gaseg yn y baw.
Mi ddeuda i ti ddeg,—
Hen gaseg ar y clwt teg.
Pan oeddwn yn ferch
ifanc,
Ac yn fy ffedog wen,
Yn gwisgo’m cnotyn sidan
Yn uchel ar fy mhen,
Mi neidiwn gainc yn wisgi,
Mi ddaliwn ’nghorff yn syth,
Meddyliais y pryd hynny,—
“Ddaw henaint ata i byth.”
I ble ti’n mynd heddy ’deryn bach
syw?
I mofyn bara, os bydda’i byw;
I beth ti’n mo’yn a bara, ’deryn bach syw?
I ddodi yn ’y nghawl, os bydda’i byw;
I beth ti’n mo’yn a cawl, ’deryn bach syw?
I ddodi yn ’y mola, os bydda’i byw;
I beth ti’n mo’yn a bola, ’deryn bach syw?
Wel, ond bai bola, byddwn ni ddim byw.
Nid oes gen i na buwch na dafad,
Na giar na cheiliog wrth fy ngalwad,
Ond bwth o dŷ, a hwnw’n fudur,
A thwll o ffenast heb un gwydyr.
Gwelais neithiwr trwy fy hun,
Dair gwlad yn mynd yn un;
Fala’n tyfu ar friga’r brwyn,
A phob hen wraig yn eneth fach, fwyn.
Mae mwy ysywaeth yn priodi,
Nag sydd a chig at Sul i ferwi.
Mae nhw’n
dwedyd am yr adar,
Nad oes un o’r rhain heb gymar;
Gwelais dderyn brith y fuches,
Heb un cymar na chymhares.
Mae’m calon i
mor drymed
A’r march sy’n dringo’r rhiw,
Wrth geisio bod yn llawen,
Nis medraf yn fy myw;
Mae’r esgid fach yn gwasgu
Mewn man nas gwyddoch chwi,
A llawer gofid meddwl
Sy’n torri ’nghalon i.
Dos i’th wely ’rwan,
Dos i’th wely ’rwan;
Dos i’th wely fel yr wyt,
Dos i’th wely ’rwan.
[0a] Hwiangerddi Cymru. Rhan I. Darluniau gan Winifred Hartley. 2s. 6d. Conwy: R. E. Jones a’i Frodyr.
[0b] Welsh Nursery Rhymes. Collected by Cadrawd. Arranged by Harry Evans. 2s. The Educational Publishing Company, Merthyr.
[14a] Ychwaneger dafad ddu, lwyd, goch, felen, frech, fraith, &c., hyd nes y bydd y bychan wedi huno.
[14b] Weithiau cenid “A chwe nichog ynddi.”
[16] Wrth ddawnsio efo coes ysgub.
[19a] Cyffyrddid â’r fawd a’r bysedd wrth enwi pob un.
[19b] Os dymunid gwneud y ddrama yn fwy cyffrous, dywedid yma,—“I ladd defaid.” Yr oedd crogi am ddwyn defaid.
[20] Rhoddid blaen gwialen yn y tân, a throid hi’n gyflym i ddarlunio buarth, cryman, &c., wrth ddweyd y geiriau.
[27a] Mae’n gofyn medr i wneyd y swn priodol. Medd golygydd Llyfr Coch Hergest, gan yr hwn y cefais hwy, y medr hwn.
[27b] Mae’n gofyn medr i wneyd y swn priodol. Medd golygydd Llyfr Coch Hergest, gan yr hwn y cefais hwy, y medr hwn.
[39] Gellir trefnu geiriau’r pennill mewn llu o ffyrdd.
[63] Dywedir y rhain wrth gerdded un neu ddau fys (“Dau bry bach”) i fyny coiff y plentyn. Gorffennir dan ei oglais dan ei ên.
[67] Dyweder “ffarmwr,” “bugail,” “glowr,” “gweithiwr,” &c., yn ol fel y bydd eisieu.
[68] Un yn dysgu dod yn chwarelwr yw rhybelwr. Enwau ar lechau o wahanol faint yw Princes, Squares, a Counties.
[88a] Cherries, ceirios.
[88b] Gooseberries, eirin Mair.
[91] Newidier yn wen, goch, lâs, fraith, frech, &c., hyd nes y cysgro’r baban.
[99] Nid wyf yn sicr ai priodol galw caneuon Calan yn ganeuon hwian. Ond hyn a wn, cenid hwy ar yr hen aelwydydd fel caneuon hwian.
[100] I brofi y medrai’r plentyn ddweyd y seiniau anhawddaf yn groew.
[107] Cefais hwn, ac amryw o hwiangerddi Dyfed welir trwy’r llyfr, gan gyfieithydd Dwyfol Gân Dante i’r Gymraeg.
[109] O gasgliad Ceiriog yn “Oriau’r Bore.”
[110a] O gasgliad Cadrawd yn yr “History of Llangynwyd Parish.”
[110b] Cynhaner wî, ffordd Gogledd Mynwy i ddweyd y gair wy.